Nahum 3

1Gwae ddinas y tywallt gwaed,
sy'n llawn celwyddau
ac yn llawn trais,
a'r lladd byth yn stopio!
2Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion,
meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu!
3Marchogion yn ymosod,
cleddyfau'n fflachio,
gwaywffyn yn disgleirio!
Pobl wedi eu lladd ym mhobman;
tomenni diddiwedd o gyrff –
maen nhw'n baglu dros y meirwon!
4A'r cwbl o achos drygioni'r butain
ddeniadol oedd yn feistres swynion,
yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedd
a swyno a thwyllo pobloedd.
5“Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus.
“Bydda i'n dy gywilyddio di –
yn codi dy sgert dros dy wyneb;
bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth
a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat! a
6Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben,
a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.
7Fydd neb yn gallu edrych yn hir –
Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,
‘Mae Ninefe'n adfeilion,
a does neb yn cydymdeimlo!’
Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”
8Wyt ti'n saffach na Thebes,
3:8 Thebes Dinas bwysicaf yr Aifft, gafodd ei choncro gan Ashwrbanipal, brenin Asyria yn 663 CC (Mae safle Thebes tua 400 milltir i'r de o Cairo)

ar lan yr afon Nil?
Roedd y dŵr fel môr
3:8 dŵr fel môr Hebraeg, "môr o'r môr". Roedd yr afon Nil dros hanner milltir ar ei thraws wrth Thebes.
yn glawdd o'i chwmpas,
a'r afon fel rhagfur iddi.
9Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica
3:9 dwyrain Affrica Hebraeg,  Cwsh, sef teyrnas gref i'r de o'r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a'r Swdan heddiw.
;
roedd ei grym yn ddi-ben-draw!
– mewn cynghrair â Pwt a Libia.
10Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,
a'i phlant bach eu curo i farwolaeth
ar gornel pob stryd.
Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,
ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.
11Byddi dithau hefyd yn feddw
ac wedi dy faeddu.
Byddi dithau'n ceisio cuddio
rhag y gelyn.
12Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys
gyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.
O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio
i gegau'r rhai sydd am eu bwyta!
13Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;
a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn;
bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.
14Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae!
3:14 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.

Cryfha dy gaerau!
Cymer fwd a sathra'r clai,
a gwneud brics yn y mowld!
15Bydd tân yn dy losgi di yno,
a'r cleddyf yn dy dorri i lawr –
cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.
Lluosoga fel y lindys,
ac fel y locust ifanc;
16roedd gen ti fwy o fasnachwyr
nag sydd o sêr yn yr awyr.
Ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.
17Roedd dy warchodwyr a'th weision sifil
fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;
ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd,
a does neb yn gwybod i ble.
18Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!
Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!
Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,
a does neb i'w casglu.
19Does dim gwella ar dy glwyf –
mae dy anaf yn farwol.
Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat
yn dathlu a curo dwylo.
Oes rhywun wnaeth ddianc
rhag dy greulondeb diddiwedd?
Copyright information for CYM